Mae rheithor Pennal Machynlleth wedi llunio murlun dadleuol sy’n defnyddio geiriau creulon a threisgar o Feibl Brenin Siôr i godi cwestiynau am sut Dduw ydan ni’n ei ddilyn.

Mae Geraint ap Iorwerth yn gobeithio “glanhau ffydd” Cristnogion, Mwslemiaid, Iddewon a phobl o sawl ffydd arall gyda’r gwaith ar ffurf cerdyn Nadolig enfawr.

Mae’n dadlau ein bod bellach wedi “colli gwir neges Iesu Grist” sef maddeuant. 

Gyda Beibl Brenin Siôr yn dathlu pedair canrif, fel prosiect grawys – mae’r rheithor wedi llosgi tudalennau o’r hen  Feibl i greu murlun sy’n canolbwyntio ar yr iaith dreisgar yn y beibl. Mae’n dadlau bod angen “ail feddwl” am y ffordd yr ydan ni’n portreadu Iesu heddiw.

“Mae gen i ŵyr sydd bron yn 11 oed ac yn gofyn cwestiynau. Ro’ ni’n argyhoeddedig i ddweud nad ydw i wedi rhoi fy mywyd i’r Duw creulon yma sy’n lladd, yn poenydio ac yn cosbi pobl,” meddai Geraint ap Iorwerth.

Cosbi

“Mae mil o adnodau lle mae Duw yn cosbi. Mae 600 o ddarnau lle mae trais pur, 100 o ddarnau lle mae pobl yn cael eu gorchymyn i ladd. Wedyn nifer o straeon lle mae’r Duw afresymol yma’n gwneud nifer o bethau od i bobl am ddim rheswm,” meddai.

Cafodd ei weithred dros yr haf ei beirniadu’n hallt gan nifer yn cynnwys Esgob Bangor. Ond mae’r  rheithor yn gobeithio arddangos y gwaith mewn oriel yn fuan ac mae’n bwriadu cysylltu gyda’r Cynulliad i ofyn cwestiynau am addysg plant.

“I mi, hwn (y gwaith) fydd fy ffordd i allan o’r Eglwys,” meddai Geraint ap Iorwerth sydd wedi bod yn gwasanaethu’r Eglwys yng Nghymru ers tua 37 o flynyddoedd.

Mae eisiau gwneud ei waith fel offeiriad “mewn ffordd arall” bellach, eglura. “I mi, roedd y gwaith yma’n rhyddhad, fel fy mod i’n cael gwared a’r traddodiad creulon yma yn y Beibl a’r ffydd Gristnogol – mae yma ers y dechrau.”

“Os fedr person sy’n Brif Weinidog sy’n troi yn babydd ddweud ei fod yn ewyllys Duw i fomio Irac fel gwnaeth o – wel i mi, mae rhywbeth o’i le. Nid rhywbeth rhamantus afreal yw hwn, fe ddigwyddodd.”

Er bod Geraint ap Iorwerth yn gadael yr Eglwys ddiwedd fis Ionawr, mae’n gobeithio gallu parhau i “drio dilyn Iesu Grist” tu allan i ffiniau’r Eglwys, meddai.

“Fedra i ddim byw yn ysbrydol yn ffiniau cul yr Eglwys rhagor. Mae fy mhlwyfolion i’n gwybod ac yn derbyn hynny.

“Dw i’n trio dilyn Iesu, ffordd yr Iesu. Pan mae rhywun yn dweud eu bod yn Gristion, mae’n awgrymu eu bod nhw’n ‘wrth’ rhywbeth arall. Mae hynny i mi yn drist, ein bod ni wedi meddwl am Iesu Grist fel masgot y ffydd Gristnogol – wrth gwrs, tydi o ddim.”