Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn gyfarwydd iawn â phlannu syniadau ym mhennau pobol Cymru – ond plannu coed dros Kenya yr oedd e ddechrau’r wythnos.


Carwyn Jones yn Llambed i blannu coeden dros Kenya
Roedd y Prif Weinidog yn Llanbedr Pont Steffan ddydd Mawrth i blannu coeden ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn y dref, er mwyn hyrwyddo ymgyrch cynaladwyedd y myfyrwyr, sy’n ceisio mynd i’r afael â datgoedwigo trofannol yn Kenya.

Roedd y digwyddiad yn rhan o ymgyrch Palu Mlaen tîm o fyfyrwr o Lanbedr Pont Steffan i dynnu sylw at yr angen i leihau allyriadau carbon, a phlannu coed yn Kenya.

Mae’r Brifysgol wedi ymuno â menter plannu coed Cyswllt Cymunedol Carbon Llanbedr Pont Steffan, y CCL, er mwyn cefnogi ac annog y prosiect drwy gyfrannu arian cyfatebol am bob coeden sy’n cael ei noddir gan y myfyrwyr y tymor hwn.

Mae’r myfyrwyr wedi llwyddo i godi £1215.31 drwy’r ymgyrch er mwyn plannu coed cashiw yn Kenya hyd yn hyn – swm a fydd yn cael ei gefnogi punt am bunt gan y Brifysgol.

Wedi plannu ei goeden ei hun, dywedodd y Prif Weinidog fod y myfyrwyr i’w canmol am ddangos “ymrwymiad i wella ansawdd bywyd pobl Bore yn Kenya a fydd yn elwa o’r  coed a blannwyd, ond hefyd ymroddiad i’r syniad o feddwl yn rhyngwladol tra’n gweithredu’n lleol.”

Cysylltiad Llanbed a Kenya

Mae’r CCL wedi derbyn £ 12,800 gan Lywodraeth Cymru i weithredu Cynllun Newid Hinsawdd y Bore.

Fel rhan o’r wobr, bydd Luci Attala, Cymrawd Addysgu yn yr Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg yn monitro a gwerthuso sut mae’r gymuned leol yn addasu i effeithiau cynyddol newid yn yr hinsawdd, a hynny mewn cyd-destun is-Sahara.

“Mae’r CCL yn dod â chymunedau yng Nghymru ac Affrica at ei gilydd. Trwy’r fenter hon, rydym nawr yn gysylltiedig â’r Giriama yn Bore, Kenya. Mae’r Giriama yn llwyth bach sy’n byw drwy losgi golosg sy’n arwain at datgoedwigo ac mae’r CCL yn anelu i helpu’r gymuned i ddatblygu bywoliaeth gynaliadwy amgen.

“Byddaf yn ymchwilio i ganlyniadau hyn, a’r berthynas sydd rhwng dwy gymuned wahanol iawn, yn ogystal â sylwadau ar sut caiff y newidiadau enfawr a wynebir gan gymunedau ymylol llwythol fel hyn eu trafod heddiw.