Mae Heddlu’r De yn ymchwilio wedi digwyddiad yng nghanol dinas Caerdydd ac wedi rhyddhau delweddau Teledu Cylch Cyfyng o ddau ddyn maen nhw eisiau gwybodaeth amdanyn nhw.
Daw hyn wedi i ddyn 24 blwydd oed o Ferthyr Tydfil ddioddef ymosodiad ar lwybr wrth ymyl Boulevard de Nantes yn ystod oriau man ddydd Sul, 20 Tachwedd.
Fe gafodd y dyn ei daro i’r llawr o’r tu ôl iddo cyn i ddynion ddwyn ei iphone a’i waled. Ni chafodd y dyn ei anafu.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am y dynion yn y lluniau Teledu Cylch Cyfyng, neu gan unrhyw un sy’n eu hadnabod.
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth am yr unigolion neu’r digwyddiad gysylltu gyda Heddlu Caerdydd ar 02920 527 420 neu’n ddienw gyda Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.