Mohammad Asghar
Mae Aelod Cynulliad gyda’r Ceidwadwyr wedi ymddiheuro heddiw, ar ôl dechrau lobio i gael ei wraig wedi ei henwebu i sedd y cyngor – llai na 48 awr wedi i’r cynghorydd blaenorol farw.
Mae Mohammad Asghar, sy’n Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru, wedi cael ei gyhuddo o ymddwyn yn amhriodol ar ôl gofyn i aelodau o’r blaid yng Nghasnewydd i gefnogi ei wraig Firdaus Asghar i geisio am y sedd yn y cyngor.
Bu farw’r cyn-gynhorydd, Les Knight, 81 oed, ddydd Sul diwethaf.
Roedd Les Knight wedi bod yn cynrychioli ward Allt-yr-Yn ar Gyngor Dinas Casnewydd ers 1964.
Dydd Mawrth, fe anfonodd Mohammad Asghar – gynt o Blaid Cymru a’r Blaid Lafur – neges at nifer o Geidwadwyr blaenllaw ar y cyngor yn gofyn iddyn nhw ystyried ei wraig yn olynydd.
“Rydw i’n drist iawn i glywed am y Cygnhorydd Les Knight,” meddai’r e-bost. “Ond mae’n ymddangos fod pethau eisoes yn symud yn eu blaen o safbwynt sedd Allt-yr-yn.
“Byddwn i’n ddiolchgar iawn petai chi’n gallu ystyried Firdaus Asghar i sefyll yn yr etholiadau.
“Dwi’n siwr eich bod yn ymwybodol bod Firdaus wedi byw yn y ward ers mwy na 20 mlyned ac wedi gweithio’n agos gyda’r Cynghorydd Knight ar nifer o faterion yr etholaeth.”
Ymhlith y rhai oedd wedi derbyn yr e-bost oedd y cynghorydd Ceidwadol Peter Davies, aelod o gabinet Cyngor Dinas Casnewydd.
Dywedodd Peter Davies wrth y Western Mail: “Roedd i wedi fy synnu i gael yr e-bost yma, ac roeddwn i’n teimlo ei fod yn ddi-chwaeth.
“Pan gefais yr e-bost doedd trefniadau’r angladd heb gael eu gwneud hyd yn oed.
“Roedd anfon e-bost fel hyn yn ddideimlad ac yn ddi-chwaeth.”
‘Ffrind agos’
Ond heddiw mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wedi mynnu bod Mohammad Asghar yn drist iawn o golli ei “ffrind agos.”
“Mae wedi ymddiheuro am unrhyw dramgwydd y gall e fod wedi ei achosi trwy ei e-bost.
“Mae wedi cadarnhau na fydd ei wraig yn ceisio cael ei hethol yn yr etholiadau lleol nesaf.
Dywedodd y llefarydd fod Mohammad Asghar yn “hynod ypset o golli Les Knight, a oedd yn un o’i ffrindiau agosaf.”
Tynnu pobol i’w ben…
Nid dyma’r tro cyntaf i’r gŵr 66 oed, a aned ym Mhacistan, dynnu pobol i’w ben. Cafodd y cyn-aelod o’r Blaid Lafur ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru yn etholiadau’r Cynulliad yn 2007.
Dwy flynedd yn ddiweddarach fe ymunodd â’r Ceidwadwyr Cymreig – gan honni’n wreiddiol ei fod yn aghytuno gydag agenda annibyniaeth Plaid Cymru, am fod hynny’n gwrthdaro â’i gariad at y Teulu Brenhinol.
Ond ddyddiau wedyn fe gyfaddefodd ei fod wedi gadael Plaid Cymru ar ôl i arweinydd y blaid, Ieuan Wyn Jones, ddweud wrtho na allai gyflogi ei ferch fel ei swyddog i’r wasg.