Mae gwerthiant wedi gostwng 0.4% ar draws Prydain yn ystod mis Tachwedd, yn ôl Swyddfa’r Ystadegau Gwladol heddiw.
Er gwaetha’r sêls cynnar a’r dêls arbennig, mae’n ymddangos mai siopwyr cyndyn iawn i wario’u harian sydd wedi bod yn crwydro’r strydoedd hyd yn hyn – gyda gwerthiant cyfrifiaduron, tlysau a charpedi wedi dioddef yn arbennig.
Mae’r cwymp wedi bod yn llawer mwy na’r disgwyl, ac wedi dod â deufis o dyfiant i ben.
Mae siopau nad sy’n gwerthu bwyd wedi gweld eu cwymp mwyaf ers mis Chwefror, tra bod y siopau bwyd wedi gweld eu cwymp mwyaf ers hanner blwyddyn.
Er hyn, mae’n amlwg fod y tuedd i siopa ar-lein yn dal ar gynnydd, gyda £787.9 miliwn yn cael ei wario ar-lein yn ystod Tachwedd 2011 – a’r ffigwr hwnnw i fyny o £546.4m y mis blaenorol. Yn ôl y ffigyrau, mae siopau ar-lein nawr yn berchen ar 12.2% o’r holl farchnad manwerthu.