Gareth Pierce
Mae prif weithredwr CBAC ymhlith y rhai sy’n cael eu holi bore ma gan Bwyllgor Dethol Addysg San Steffan yn dilyn honiadau mewn papur newydd fod arholwyr wedi rhoi gwybodaeth am gwestiynau arholiadau TGAU i athrawon.
Bydd Gareth Pierce yn rhoi tystiolaeth heddiw ynghyd â dau arholwr CBAC gafodd eu gwahardd o’u gwaith dros dro yn dilyn yr honiadau yn y Telegraph.
Fe fydd prif weithredwyr tri o fyrddau arholi Lloegr hefyd yn cael eu holi gan Aelodau Seneddol.
Roedd y Telegraph wedi honni bod athrawon wedi cael gwybodaeth fanwl am gwestiynau fyddai’n cael eu cynnwys mewn arholiadau Safon Uwch a TGAU a chyngor ynglŷn â sut y gallen nhw gael marciau uwch.
Roedd y ddau arholwr – Paul Evans a Paul Barnes – wedi cael eu henwi yn adroddiad y Telegraph.
Fe fyddan nhw’n rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Addysg San Steffan sy’n cynnal yr ymchwiliad.
Fe fydd y pwyllgor yn cael ei gadeirio gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol Graham Stuart.
Ddoe, roedd Gweinidog Addysg Cymru wedi gorchymyn adolygiad i sector cymwysterau’r wlad yn dilyn yr honiadau.
Fe ddywedodd Leighton Andrews AC y byddai’r adolygiad yn edrych ar systemau amgen posibl, gan gynnwys ystyriaeth a ddylai fod ‘na un darparwr yn hytrach na sawl bwrdd arholi yn cystadlu.