Mae 133,000 o bobol yng Nghymru yn ddiwaith erbyn hyn, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd y bore ’ma.

Mae’r ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod lefel diweithdra yng Nghymru wedi codi i 11% rhwng mis Awst a Thachwedd eleni – gyda 9.1% o’r boblogaeth nawr yn ddiwaith.

Mae diweithdra yng Nghymru dal yn sylweddol uwch na chyfartaledd y DU o 8.3% – sydd ei hun yn cynrychioli’r lefel diweithdra uchaf ar draws y DU ers 17 mlynedd.

Mae’r ffigyrau’n ergyd mawr i’r Llywodraeth ac i’r cyhoedd wrth baratoi at y Nadolig, ac mae’n ymddangos fod nifer y menywod a’r ifanc sy’n hawlio budd-dal y di-waith wedi codi’n aruthrol am y nawfed mis yn olynol.

Ar draws Prydain, mae diweithdra ymhlith pobol 16 i 24 oed wedi cynyddu 54,000 i 1.03 miliwn, y lefel uchaf ers i’r cofnodion ddechrau yn 1992.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos fod diweithdra ymhlith menywod wedi cynyddu 45,000 ers mis Awst – gan gyrraedd cyfanswm o 1.1 miliwn o fenywod diwaith erbyn mis Tachwedd. Dyma’r ffigwr diweithdra uchaf i fenywod y DU ers 1988.

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos fod hawlwyr budd-dâl y di-waith wedi cynyddu 3,000 yn y mis diwethaf, i 1.6 miliwn – y nawfed mis yn olynol i’r ffigwr godi – a’r uchaf ers dechrau 2010.

Fe gododd lefel diweithdra ar draws Prydain rhwng Awst a Tachwedd eleni, heblaw Canolbarth Dwyrain Lloegr, a Gogledd Iwerddon, lle bu gostyngiad o 4,000 yn nifer y diwaith yn y ddau ran.