Mae cynghorwyr Môn wedi gwrthod unrhyw awgrym i dorri eu niferoedd, na newid ffiniau eu wardiau heddiw.

Penderfynodd y cynghorwyr yn unfrydol eu bod yn erbyn cynigion y Comisiwn Ffiniau a’r Gweinidog Llywodraeth Leol i dorri eu niferoedd o 40 i 30, nac i greu wardiau newydd gyda dau neu dri o gynghorwyr i bob un.

Ar 21 Tachwedd eleni, fe gyhoeddodd y Comisiwn Ffiniau gynigion drafft ar gyfer y newidiadau i nifer a wardiau cynghorwyr Môn.

Ond heddiw cafodd y Comisiwn Ffiniau ei gyhuddo weithredu’n “annemocrataidd,” wrth fethu ag ymgynghori â’r cyhoedd ar y newidiadau, er eu bod nhw’n bygwth “newidiadau daearyddol a diwylliannol sylweddol” i etholwyr Ynys Môn.

“Mae’r ymgynghori gyda phobol Môn wedi bod yn hollol annigonol,” meddai’r Cynghorydd Keith Evans.

Roedd y cynigion yn cynnwys gostwng  nifer y cynghorwyr sir o 40 i 30 a chreu 11 rhanbarth etholiadol aml-aelod newydd. Byddai wyth ohonynt yn cael eu cynrychioli gan dri chynghorwr sir a’r tair arall yn cael eu cynrychioli gan ddau gynghorwr sir.

Ond fe benderfynodd y cynghorwyr heddiw y byddai’r newidiadau yn creu “wardiau rhy fawr, fyddai’n annemocrataidd wrth gyfyngu ar yr ystod o ymgeiswyr, yn ddiffygiol o ran atebolrwydd lleol, ac yn anghydnaws oherwydd cyfuniadau gorfodol o gymunedau gwledig a trefol.”

Roedd y cynghorwyr hefyd o’r farn y byddai newid o’r system bresenol yn “gadael yr Awdurdod heb ddigon o Aelodau i weithio’n effeithiol.”

Gwrthwynebu gohirio etholiad

Dywedodd y cynghorwyr eu bod hefyd yn hollol wrthwynebus i unrhyw gynllun i ohirio etholiadau’r cyngor yn 2012.

Roedd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, wedi dweud ei bod hi’n bosib y byddai rhaid gohirio’r etholiadau tan 2013 petai’r newid ffiniau a thorri nifer y cynghorwyr yn mynd yn ei flaen.

Ond heddiw fe benderfynodd y cynghorwyr y dylai’r Prif Weithredwr dros dro a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol “geisio cyngor a chymryd camau rhesymol i herio priodoldeb cynigion y Comisiwn Ffiniau a rôl y Gweinidog, mewn proses all weld etholiadau’r Cyngor Sir yn cael eu gohirio hyd nes Mai 2013.”

Pwysleisiodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Owen, nad oedd yr Awdurdod “yn erbyn edrych ar y ffiniau, ond rydym yn teimlo fod y broses yma’n cael ei ruthro ac nad ydym yn derbyn yr un driniaeth ag awdurdodau eraill yng Nghymru.

“Cafwyd prin ddim ymgynghori ar y cynigion drafft yma gyda chynghorau tref a chymunedau a’n bwysicach byth ychydig iawn hefo pobl Ynys Môn.”

Gofynnodd y cynghorwyr i’r swyddog canlyniadau barhau â threfniadau ar gyfer etholiad ym mis Mai 2012.

Bydd yr ymgynghoriad cychwynnol ar newid ffiniau a thorri nifer y cynghorwyr yn dod i ben erbyn 3 Ionawr 2012. Bydd y Comisiwn wedyn yn ystyried sylwadau gan etholwyr ac unigolion perthnasol.

Mae disgwyl i’r argymhellion terfynol gael eu cyflwyno i’r Gweinidog dros Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant AC, erbyn y gwanwyn 2012 – cyn iddo benderfynu’n derfynol ar newidiadau i’r cynghorwyr erbyn canol 2012.