Emma Jones
Mae achos merch 23  oed, sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio Emma  Louise Jones, 31 oed o Benygroes wedi’i ohirio tan fory.

Roedd Alwen Eluned Jones, 23 oed o bentref Llanllyfni  i fod i ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon heddiw ar gyfer cais am fechnïaeth. Mae’r achos wedi’i ohirio tan bore fory.

Roedd wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon ddoe ar gyhuddiad o’i llofruddio.

Bu farw Emma Louise Jones, 31 oed, ar ôl cael ei thrywanu mewn digwyddiad ar stad o dai Trem yr Wyddfa ym Mhenygroes, Gwynedd yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.