Mae’r cwmni ynni Scottish and Southern Energy, y cwmni sy’n berchen SWALEC, wedi cyhoeddi heddiw ei bod yn mynd i agor canolfan hyfforddi newydd gwerth £7 miliwn ar gyfer y sector ynni adnewyddol, a fydd yn creu 250 o swyddi newydd.
Mae’r buddsoddiad yn y ganolfan newydd yn Nhrefforest yn cynnwys £2 miliwn o arian bunes gan Lywodraeth Cymru.
Fe fydd y ganolfan yn ganolbwynt ar gyfer timau arbenigol yn y sector ynni adnewyddol. Mae disgwyl i’r ganolfan gymryd chwe mis i’w chwblhau.
Dywedodd prif weithredwr SSE, Ian Marchant: “Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos ein hymrwymiad i Gymru. Mae’n dangos ein parodrwydd i fuddsoddi a chreu swyddi newydd ac fe fydd y ganolfan hyfforddi yn sicrhau bod gan ein staff y sgiliau i fod ar y blaen yn y chwyldro ynni gwyrdd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.”
Mae’r gweinidog busnes Edwina Hart wedi croesawu’r newyddion gan ddweud y bydd yn hwb sylweddol yn y sector ynni “gwyrdd”.
SSE yw’r prif gwmni cynhyrchu ynni adnewyddol yn y DU ac mae gan SWALEC 1.3 miliwn o gwsmeriaid yng Nghymru. Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn cyflogi 2,000 o bobl yng Nghymru yn eu safleoedd yng Nghaerdydd a gorsaf bŵer Aber-wysg.
Dros y pedair blynedd ddiwethaf mae SSE wedi creu 800 o swyddi newydd yng Nghymru drwy ehangu ei busnesau.