Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi ysgrifennu llythyr at David Cameron yn mynegi pryder bod ei feto wedi gadael Cymru “ar y cyrion yn Ewrop.”

Roedd David Cameron wedi gwrthod cymeradwyo newidiadau i gytundeb yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel wythnos diwethaf er mwyn diogelu’r Ddinas yn Llundain rhag “ymyrraeth” gan Ewrop.

Ddoe, dywedodd Carwyn Jones ei fod wedi ysgrifennu llythyr at y Prif Weinidog yn rhybuddio y gallai ei benderfyniad gael effaith andwyol ar ddiwydiannau gweithgynhyrchu yn y DU.

Yn ei lythyr mae Carwyn Jones yn dweud: ”Fy mhryder i yw y bydd y DU yn cael ei ynysu mewn cyfnod pan ddylen ni fod yn y canol yn Ewrop yn hybu trafodaeth am yr economi.

“Rydw i’n credu bod hyn yn bygwth buddiannau cenedlaethol Cymru.”

Dywedodd bod 50% o allforion o Gymru yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd a bod angen diogelu buddiannau cefn gwlad  drwy gyfrwng y Polisi Amaethyddol Cyffredin tra bod y Cronfeydd Strwythurol yn chwarae rhan hanfodol yn natblygiad economaidd Cymru.

Mae Carwyn Jones wedi galw am gyfarfod buan gyda’r Pwyllgor Gweinidogol Cyfun er mwyn trafod y mater.

Bu arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, hefyd yn mynegi pryder am y mater.

Dywedodd Kirsty Williams nad oedd David Cameron wedi ymdrechu’n ddigon caled i warchod buddiannau Cymru a’r Du, drwy “gerdded i ffwrdd” o’r trafodaethau.

O ganlyniad, meddai, ni fydd modd cael y math o ddylanwad yn Ewrop a fydd yn hybu swyddi a busnesau yng Nghymru.

Mae ei sylwadau yn adleisio rhai y Dirprwy Brif Weinidog ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg, a ddywedodd bod y penderfyniad a wnaed yn y gynhadledd ym Mrwsel ddydd Gwener “yn benderfyniad gwael i Brydain”.

Roedd y Prif Weinidog wedi wfftio honiadau gan Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, oedd wedi dweud bod 90,000 o filltiroedd sgwâr yn y DG ond bod David Cameron yn teimlo mai dim ond un filltir sgwâr oedd yn bwysig – sef y Ddinas yn Llundain.

Dyweodd David Cameron wrth Dy’r Cyffredin: “Nid un filltir sgwâr o’r DU yn unig yw hon.

“Rydw i’n meddwl am y bobl sy’n gweithio yn y diwydiant gwasanaethau ariannol yng Nghaerdydd, am y banciau, cymdeithasau adeiladu, busnesau yswiriant ar hyd a lled Cymru – mae angen iddyn nhw wybod bod rheoleiddio teg yn Ewrop.. ac nid y diwydiannau hynny yn unig, ond y gefnogaeth mae nhw’n ei roi i ddiwydiannau eraill hefyd.”

Dywedodd Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn Glyn Davies bod David Cameron wedi “gwneud y peth iawn” ac “nad oedd dewis arall ganddo”.