Stad Trem yr Wyddfa, Penygroes
Fe fydd gwraig 23 oed yn mynd gerbron ynadon Caernarfon bore ma ar gyhuddiad o lofruddiaeth ar ôl i wraig 31 oed gael ei thrywanu i farwolaeth.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi bod yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl digwyddiad ar stad o dai Trem yr Wyddfa ym Mhenygroes, Gwynedd yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn.

Cafodd Emma Louise Jones, oedd yn fam i fachgen ifanc, o Benygroes ei chludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.

Roedd hi wedi cael ei thrywanu, meddai’r heddlu.

Neithiwr, cafodd Alwen Eluned Jones, o bentref Llanllyfni, ei chyhuddo o’i llofruddiaeth.

Dywed yr heddlu bod swyddogion cyswllt teuluol yn helpu teulu Emma Jones a bod y crwner wedi ei hysbysu.

Cafodd dyn a gwraig arall hefyd eu harestio ond fe gawson nhw eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Mae’r heddlu’n apelio ar  unrhyw un oedd yn ardal Trem yr Wyddfa ym Mhenygroes yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn i gysylltu â nhw.

Mae cannoedd o deyrngedau wedi cael eu rhoi i Emma Jones ar dudalen arbennig ar wefan cymdeithasol Facebook.