Alex Jones
Mi fydd ffans y gyfres deledu Strictly Come Dancing sy’n cefnogi Alex Jones yn dal eu gwynt heno ma wrth i’r gyflwynwraig o Ddyffryn Aman frwydro am ei lle yn rownd derfynol y gystadleuaeth.

Pum cystadleuydd sydd yn y rownd gyn derfynol heno, a nos fory byddwn yn cael gwybod enwau’r tri fydd yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol a fydd yn cael ei chynnal yn Blackpool yr wythnos nesaf.

Mae’r gystadleuaeth eleni yn un agos iawn, gyda’r cyw-ddawnswyr yn dysgu’n sydyn ac yn perfformio’n dda.

Heno, bydd Alex Jones a’i phartner yn dawnsio dwy ddawns sef y Salsa (i gân Aretha Franklin, You make me feel like a natural woman) a’r Walts (i’r gân 1-2-3-4 gan Gloria Estefan).

Y dawnswyr eraill sydd dal yn ras ydi’r actor a chanwr Jason Donovan, Harry Judd, sy’n aelod o’r band McFly; yr actores Chelsee Healey a’r actores a’r gantores Holly Valance.

Y ddau arall o Gymru sydd wedi bod yn cystadlu eleni ydi’r cyn-beldroediwr Robbie Savage, a’r astrolegydd Russell Grant. Mi wnaeth y ddau wneud argraff fawr ar y gynulleidfa a’r beirniaid, gyda Russell yn cael ei saethu allan o ganon yn ystod ei ymddangosiad olaf ar y rhaglen.