Ieuan Wyn Jones
Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi beirniadu Prif Weinidog Prydain, David Cameron am roi diddordebau ei feincwyr cefn uwchlaw swyddi Cymreig.

“Mae penderfyniad David Cameron i roi feto ar gytundeb newydd a’i fethiant i sicrhau consesiynau arwyddocaol yng Nghyngor Ewrop yn ein gadael yn ddiamddiffyn,” meddai Ieuan Wyn Jones.

“Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i fod ar ei phen ei hun – ni fydd yn chwaraewr allweddol yn y trafodaethau sydd i ddod. Ac eto, mae’r naw gwlad arall tu allan i barth yr Ewro yn debygol o chwarae rhan weithgar mewn ceisio dod i gytundeb.

“O ystyried pwysigrwydd y penderfyniadau yma i ddyfodol economi Cymru, ac yn enwedig ein hallforion, dim ond trwy gael llywodraeth y DU yn cymryd rhan weithredol yn y trafodaethau y gall diddordebau Cymru gael eu gwarchod ar hyn o bryd.

“Mae David Cameron wedi penderfynu fod diddordebau ei feincwyr cefn yn fwy pwysig na swyddi Cymreig.”