Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd ar ddyfodol gorsafoedd yr heddlu ar draws Gogledd Cymru.
Yr argymhelliad ydi fod 4 o’r 49 gorsaf sydd yn y gogledd yn cael eu cau, sef Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd, Tywyn yng Nghonwy, a gorsafoedd Gaerwen a’r Fali ar Ynys Môn.
Bydd 12 gorsaf hefyd yn cael eu hadleoli sef Gresffordd, Cefn Mawr ac Y Waun; Bala, Nefyn a Bethesda; Saltney, Y Fflint, Bwcle a Threffynnon; Llangollen a Llandudno.
Mae’r strategaeth drafft hefyd yn argymell cau’r swyddfeydd Adran Gweinyddu Cyfiawnder ym Mhrestatyn gan adleoli staff i Lanelwy, a sefydlu adnodd yng nghanol y dref ar gyfer y Tîm Plismona Cymdogaeth.
Meddai Alun Lewis, Cadeirydd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, “Ein nod yw cael ystâd heddlu effeithlon sy’n gweithredu ar lai o gost ac sy’n bodloni anghenion cymunedau Gogledd Cymru a phlismona modern.
“Rydym yn gwerthfawrogi bod yna newidiadau sylweddol yn yr argymhellion drafft a allai achosi pryder i gymunedau. Rydym am wybod am y rhain a’u trafod yn llawn. Rydym yn sylweddoli na fydd rhai o’r argymhellion hyn yn cael eu croesawu gan bawb. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i’n cymunedau wrth iddynt ystyried eu hymateb i’r ymgynghoriad hwn, werthfawrogi mai nod yr adolygiad yw ceisio diogelu cymaint o rolau swyddogion a staff heddlu â phosib o fewn y sefydliad a chynnal y gwasanaeth plismona rheng flaen cymaint â phosib.
“Rydym yn gwybod fod pobl yn gwerthfawrogi gorsafoedd heddlu ac yn eu gweld fel mannau sy’n tawelu meddwl. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwerthfawrogi’r hyn a ddywedoch chi wrthym yn ystod yr ymgynghoriad Dyfodol Plismona yng Ngogledd Cymru, sef mai’r gwasanaeth yr ydych yn ei werthfawrogi fwyaf ac rydym wedi gwrando ar y safbwyntiau hyn.”
Meddai’r Prif Gwnstabl Dros dro Ian Shannon: “Mae lleihau costau ein hystâd blismona yn golygu efallai na fydd angen i ni golli 30 o swyddi swyddogion heddlu ychwanegol yng Ngogledd Cymru. Efallai y bydd pobl yn teimlo y bydd cau gorsaf heddlu yn golygu colli gwasanaeth plismona. Nid dyna’r bwriad. Os ydym am sicrhau niferoedd y swyddogion heddlu a staff cymorth sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru, mae angen i ni leihau costau eraill. Mae felly’n ddewis rhwng pobl ac adeiladau: rydym yn dymuno symud tuag at ystâd ratach, fwy effeithlon er mwyn i ni allu cadw mwy o bobl i wasanaethu’r cyhoedd.”
Rhwng rŵan a diwedd mis Ionawr, gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i edrych ar Strategaeth Ystâd Ddrafft Heddlu Gogledd Cymru, sy’n rhoi manylion llawn am unrhyw newidiadau arfaethedig i orsafoedd ac adeiladau. Gallwch weld y strategaeth drwy fynd i http://www.nwalespa.org/public_consultations-230.aspx a gallwch anfon eich safbwyntiau at consultation@north-wales.police.uk neu ysgrifennwch at:
Ymgynghoriad Drafft yr Ystâd,
Glan y Don,
Bae Colwyn,
Conwy.
LL29 8AW.