Gary Speed
Mi gafodd angladd rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Gary Speed, ei gynnal ddoe ym Mhenarlâg.

Dim ond teulu a ffrindiau oedd yn bresennol yn y gwasanaeth, ond mi fydd gwasanaeth cyhoeddus i gofio amdano yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd.

Bu farw Gary Speed, oedd yn 42 oed, yn ei gartref yn swydd Gaer y mis diwethaf.  Y gred yw ei fod wedi crogi ei hun.