Parks - 20 pwynt i'r maswr
Gleision 25–8 Caeredin

Cicio cywir yr Albanwr yn nhîm y Gleision a oedd yn bennaf gyfrifol am fuddugoliaeth y rhanbarth o Gymru yn erbyn Caeredin heno. Sicrhaodd y Gleision eu trydedd buddugoliaeth yn olynol yn y Cwpan Heineken y tymor hwn diolch i 20 pwynt o droed Dan Parks yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd yr ymwelwyr yn addawol mewn deg munud cyntaf digon agored. Ond parhau yn ddi sgôr wnaeth hi er i’r canolwr, Nick De Luca daro’r postyn gydag ymdrech am gôl adlam.

Y Gleision yn hytrach a aeth ar y blaen a hynny wedi 14 munud pan lwyddodd Parks gyda gôl adlam, yr Albanwr yn sgorio yn erbyn yr Albanwyr, 3-0 i’r Cymry.

Ond tarodd Caeredin yn ôl bron yn syth gyda chic gosb o droed y mewnwr, Greig Laidlaw, 3-3 wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae.

Roedd hi’n ymddangos bod Jamie Roberts yn mynd i sgorio cais cyntaf y gêm eiliadau yn ddiweddarach wedi iddo ryng-gipio pas yng nghanol y cae ond chwibanodd Wayne Barnes am sgrym er mawr siom i gefnogwyr y Gleision.

Methodd Laidlaw gyda chyfle am dri phwynt arall a bu rhaid i’r Gleision oresgyn cyfnodau hir o bwyso gan Gaeredin yng nghysgod eu pyst cyn iddynt ddechrau dod fwyfwy mewn i’r gêm wrth i’r hanner cyntaf dynnu at ei derfyn.

Ar y blaen ar yr Egwyl

Methodd Parks gyfle cymharol hawdd am gôl adlam ychydig funudau cyn yr egwyl cyn gwneud yn iawn am ei gamgymeriad gyda gweithred olaf yr hanner pan lwyddodd gyda chic gosb i’w gwneud hi’n 6-3 i’r rhanbarth o Gymru.

Efallai nad oedd y sgôr yn adlewyrchiad teg o’r hanner cyntaf gan i’r ymwelwyr reoli’r gêm am gyfnodau hir ond wedi dweud hynny y Gleision ac yn fwy penodol, Jamie Roberts a oedd yn edrych yn fwyaf tebygol o sgorio cais.

Dechreuodd y Gleision yr ail hanner yn llawer mwy addawol gyda bylchiad da Sam Warburton yn arwain at sgrym mewn safle ymosodol da. A chawsant eu gwobrwyo yn fuan wedyn wrth i Parks drosi cic gosb wedi 47 munud er mwyn ymestyn mantais y Cymry i chwe phwynt.

Ychwanegodd maswr y Gleision ddwy gic gosb arall yn fuan wedyn gan ymestyn mantais y tîm cartref i 12 pwynt gyda dwy gic lwyddiannus wedi 51 munud ac eto wedyn dri munud yn ddiweddarach.

Y Cais Cyntaf

Daeth cais cyntaf y gêm toc wedi awr o chwarae. Cafwyd cyfnod da o bwyso gan flaenwyr Caeredin cyn i’r olwyr gael cyfle i redeg a chyfunodd y ddau asgellwr, Tim Visser a Lee Jones yn dda yn y gornel dde er mwyn creu’r cais i Jones. Methodd Laidlaw y trosiad ond roedd Caeredin yn ôl yn gêm, 15-8 i’r Gleision.

Ond tarodd y Gleision yn ôl yn syth wrth i gôl adlam Parks adfer deg pwynt o fantais y tîm cartref wedi 64 munud.

Yna, sicrhaodd y Gleision y fuddugoliaeth gyda chais i Alex Cuthbert 6 munud o’r diwedd. Rhyng-gipiodd yr eilydd, Scott Andrews y bêl yng nghanol y cae a chafodd gefnogaeth dda gan Warburton ac yna Cuthbert wrth i’r asgellwr ifanc sgorio yn y gornel. Llwyddodd Parks gyda’r trosiad er mwyn rhoi’r gêm ym mhell o afael yr ymwelwyr, 25-8 i’r Gleision.

Wnaeth y Gleision ddim argyhoeddi heno ond gwnaethant ddigon yn yr ail hanner i haeddu’r fuddugoliaeth, buddugoliaeth sydd yn codi’r tîm o’r brifddinas i frig Grŵp 2.