Aberystwyth
– Y Seintiau Newydd

Bydd Aberystwyth yn gobeithio dod a rhediad gwael diweddar i ben wrth groesawu’r Seintiau Newydd i Goedlan y Parc o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn. Dim ond un pwynt y mae tîm Alan Morgan wedi ei ennill yn y tair gêm gynghrair ddiwethaf. Ond bydd eu buddugoliaeth o 6-1 yn erbyn CPD Cefn yn nhrydedd rownd y gwpan yr wythnos diwethaf wedi rhoi ychydig o hyder iddynt cyn herio’r tîm sydd yn yr ail safle ar hyn o bryd.

Braidd yn anlwcus oedd Aber yn y gêm gyfatebol yn Neuadd y Parc ddechrau Hydref. 3-2 i’r Seintiau oedd hi y tro hwn ac os all tîm Alan Morgan sgorio ddwywaith eto’r tro hwn bydd yr hyfforddwr yn ffyddiog y gall ei dîm ennill y gêm. Dim ond pedair gôl maent wedi ei ildio yn y pedair gêm ddiwethaf.

Lewis Codling fydd prif fygythiad ymosodol Aber brynhawn Sadwrn. Ef yw prif sgoriwr y clwb yn y gynghrair y tymor hwn gyda phum gôl, ond wedi dweud hynny nid yw wedi sgorio ers canol mis Hydref.

Ond chwaraewr arall y bydd rhaid i amddiffyn y Seintiau gadw llygad barcud arno ddydd Sadwrn fydd Geoff Kellaway. Mae’r asgellwr wedi sgorio tair gôl yn y pedair gêm gynghrair ddiwethaf yn ogystal â thair gôl arall yn y gêm gwpan yr wythnos ddiwethaf.

Byddai buddugoliaeth yn cryfhau sefyllfa Aberystwyth yn y degfed safle ond heb y tri phwynt gall tîm Alan Morgan ddisgyn yn ôl i safleoedd y gwymp yn ddibynnol ar ganlyniad y Drenewydd oddi cartref yn Lido Afan.

Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf am 15:45.