Aberystwyth – Y Seintiau Newydd
Bydd dau reolwr dros dro’r Seintiau Newydd, Carl Darlington a Scott Ruscoe yn gobeithio parhau â’u dechrau da gyda buddugoliaeth arall o flaen camerâu Sgorio yn Aberystwyth brynhawn Sadwrn. Bydd y ddau yn teithio i Goedlan y Parc yn edrych am eu trydedd buddugoliaeth ers iddynt gymryd yr awenau yn dilyn ymddiswyddiad Mike Davies ychydig wythnosau yn ôl.
Eglurodd y clwb yr wythnos hon nad ydynt mewn unrhyw frys i benodi rheolwr llawn amser ac efallai nad yw hynny’n llawer o sioc gan fod Darlington a Ruscoe yn gwneud cystal. Enillodd y Seintiau eu gêm gynghrair ddiwethaf o 3-1 yn erbyn Airbus cyn curo Bryntirion Athletic o 6-0 yng Nghwpan Cymru’r wythnos ddiwethaf.
Does neb wedi sgorio mwy o goliau yn y gynghrair na’r Seintiau’r tymor hwn ac mae ganddynt dri ymosodwr sydd ar dân. Mae Greg Draper wedi sgorio deg o goliau tra mae Matty Williams wedi rhwydo naw ac Alex Darlington taro cefn y rhwyd ar saith achlysur.
Ond cadw pethau’n dynn yn y cefn fydd prif broblem y Seintiau’r wythnos hon. Nid ydynt wedi cadw llechen lân yn eu pum gêm gynghrair ddiwethaf gan ildio 11 gôl yn y broses.
Enillodd y Seintiau’r gêm gyfatebol ym mis Hydref o 3-2 a byddai canlyniad tebyg oddi cartref y penwythnos hwn yn un i’w groesawu.
Yn wir, gallai tri phwynt fod yn ddigon i’w codi yn ôl i frig y gynghrair hefyd. Maent yn ail ar hyn o bryd ond dim ond gwahaniaeth goliau sydd yn eu gwahanu hwy a Llanelli ar y brig. Mae Llanelli yn croesawu Prestatyn i Stebonheath brynhawn Sul felly bydd y Seintiau yn ffyddiog y gallant fod ar ben y domen dros nos o leiaf.
Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf am 15:45.