John Hartson
Mae’r Cymro John Hartson wedi diolch i weddw Gary Speed heddiw, ar ôl iddi ofyn i gefnogwyr pêl-droed roi eu cefnogaeth i elusen canser y Cymro.

 Cafodd Gary Speed, a fu farw bron i bythefnos yn ôl, ei gladdu mewn angladd breifat yng ngogledd Cymru heddiw.

 Yn y dyddiau ers marwolaeth rheolwr Cymru, mae ei wraig Louise wedi bod yn galw ar bobol i wneud cyfraniad at ddau elusen canser – Sefydliad Syr Bobby Robson, a Sefydliad John Hartson.

 Sefydlodd John Hartson, sy’n gyn-chwaraewr pêl-droed Cymru, ei elusen ar ôl dioddef o ganser yr ymennydd, yr ysgyfaint a’r ceilliau yn 2009.

 Llwyddodd John Hartson, sy’n dad i bump, i ddod dros ei ganser a gwella.

 Heddiw roedd yn ŵr gwadd yn agoriad canolfan ganser newydd gwerth £3 miliwn o bunnoedd o’r enw Maggies yn Abertawe, sydd wedi cael cefnogaeth ariannol gan yr elusen.

 “Dw i’n ddiolchgar dros ben ar alwadau Louise ar bobol i gefnogi’r elusen. Roedd Gary wastad yn gefnogol iawn o’r sefydliad,” meddai John Hartson.

 “Fe siaradais i gyda thad Gary, Roger, neithiwr, i ddweud na fyddwn i’n gallu dod i’r angladd oherwydd fy mod i’n agor y ganolfan yma heddiw – ond mae fy meddyliau i gydag ef a’i deulu, ac fe fydda i’n mynd i’r gwasanaeth coffa iddo ym mis Chwefror.”