Bydd dynes wnaeth gyfaddef iddi falu penglog ei phartner gyda ffon golff ac oedi am ddeuddydd cyn sicrhau sylw meddygol iddo, yn cael ei dedfrydu heddiw.

Ar drothwy achos yn Llys y Goron Abertawe mi wnaeth Laura Jones, 45, gyfaddef iddi achosi niwed corfforol difrifol i’w phartner.

Mi wnaeth yr erlyniad dynnu cyhuddiad mwy difrifol o achosi niwed difrifol bwriadol yn ôl.

Yng nghartref y cwpl yn Llanddewi Brefi mi gafodd y newyddiadurwr Nathan Yates ei daro gyda ‘five wood’ yn ystod ffrae feddw.

Ni aeth Laura Jones ati i ofyn am y gwasanaethau meddygol er bod Yates yn gorwedd wedi’i anafu mewn hen adfail y tu allan i’w cartref am ddeuddydd rhwng Awst 21 a 23 y llynedd.