Mae pencampwraig rhwyfo o Wynedd wedi’i dewis i gario’r ffagl Olympaidd, cafodd ei gyhoeddi heddiw.
Fe gafodd Elin Haf Davies, 35 o’r Bala ei henwebu drwy ymgyrch enwebu cyhoeddus TSB.
Mae wedi casglu cannoedd ar filoedd o bunnoedd i elusen gan ddod y ddynes gyntaf o Gymru i rwyfo Mor yr Iwerydd a dod yn un o’r tîm benywaidd cyntaf i rwyfo Cefnfor India.
Mae unigolion wedi derbyn gwahoddiad i gario ffagl Gemau Olympaidd Llundain 2012 heddiw, cafodd ei gyhoeddi gan bwyllgor trefnu’r Gemau.
Mae dros 6,800 o gynigion amodol wedi’u gwneud i “bobl ysbrydoledig” i gario’r ffagl Haf nesaf.
Mae gan unigolion hyd at Ionawr 25 i dderbyn y gwahoddiad, ddarparu copi o ddogfennau angenrheidiol a chadarnhau maint gwisg.
Bydd y tim terfynol yn cael eu henwi ym mis Mawrth.