Joslain Mayebi
Yn ol Huw Ifor, gohebydd CPD Wrecsam, y golwr Joslain Mayebi oedd seren y gem yn erbyn Southport…
Taith fer oedd gan Southport i gyfarfod Wrecsam ar y cae ras nos Fawrth. Mae’r tim o Lannau’r Mersi yn chwarae’n arbennig o dda eleni ac roeddynt yn 3ydd yn y gyngres cyn y gem.
Fe gychwynon nhw yn llawn hyder gyda symudiadau celfydd yn agor amddiffyn Wrecsam amryw o weithiau yn ystod yr hanner cyntaf. Nid rhywbeth hawdd ei wneud yn ddiweddar.
Roedd diolch mawr eto i Joslain Mayebi yn y gol. Roedd ei berfformiad yn anhygoel. Roedd gwybodision yn arfer dweud bod Schmichael yn werth 10 pwynt i Man U dros dymor, heddiw fe enillodd Mayebi 3 pwynt i Wrecsam ar ben ei hun.
Fel roedd yr hanner cyntaf yn mynd yn ei flaen yr oedd yn amlwg bod lefelau ffitrwydd Wrecsam yn llawer gwell na Southport a daeth y Cymry yn ôl i’r gem.
Roedd hi bron iawn yn hanner amser pan dynnodd Steve Akrigg grys Danny Wright yn y cwrt cosbi, syrthiodd yntau ac enillodd Wrecsam gic o’r smotyn. Sgoriodd Speight.
Daeth Speight i ffwrdd am Cizzy ac wedi rhedeg ar ôl bel hir taranodd y bel i gefn y rhwyd.
Mae rhediad di-golli Wrecsam nawr yn bymtheg gem. Chwe gol yr ydym wedi ei ildio yn y gemau hynny ac rydym wedi sgorio 25 gol. Mae’n anodd credu nad ydym wedi agor ychydig o fwlch rhyngddom a’r gweddill. Mae Fleetwood wrth ein sodlau ni ond made gennym 6 phwynt o fantais dros y lleill.
Dywedodd Andy Morrell y dylai Wrecsam fod are eu gorau i ennill ond yn y diwedd roedd y perfformiad a roddwyd yn ddigon, diolch i Mayebi yn y gol a llwyddiant yr ymosodwyr o flaen y gol.