Yn ol gohebydd clwb y Scarlets, Aled Hywel Evans, mae disgwyl gem gyffrous pan fydd dau o gewri enwocaf Cwpan Heineken yn dod wyneb yn wyneb….

Mae penwythnosau’r Cwpan Heineken o hyd yn tueddu i fod yn eithaf cyffrous. Nid yw’r penwythnos yma am fod yn eithriad. Fe fydd dau o gewri enwocaf yn hanes y gystadleuaeth, Munster a’r Scarlets, yn dod wyneb yn wyneb prynhawn Dydd Sadwrn mewn brwydr a all ddiffinio tymor y ddau dîm.

Gyda 1,196 o bwyntiau gan gynnwys ambell i gôl adlam amhrisiadwy eisioes y tymor yma, maswr Munster Ronan O’Gara yw prif sgoriwr y gystadleuaeth. Yn ail ar y restr y mae Stephen Jones, y Sgarled profiadol. O’r holl faesydd rygbi ledled Ewrop, Parc y Scarlets yn Llanelli fydd yn lwyfan i’r ddau faswr enwocaf, sydd wedi cicio yn fwy cyson na neb arall, dros y ddeng mlynedd diwethaf a mwy. Mae gan y ddau dros gant o gapiau i’w gwledydd gan gynnwys tri thaith gyda’r Llewod. Bydd cyfraniad y chwaraewyr profiadol yma yn allweddol mewn gêm o’r fath ddwysder.

Fe fydd colli Doug Howlett drwy anaf yn ergyd drom i’r gwŷr o’r Ynys Werdd. Diddorol oedd sylwi hefyd yn ystod yr wythnos fod Peter Stringer wedi ffarwelio ar fenthyg i ymuno a’r Saereseniaid. Wrth ychwanegu hyn at y golled siomedig yn erbyn y Gweilch Nos Sadwrn ddiwethaf, gellir awgrymu mai nid dyma oedd yr wythnos orau o ran paratoi y maent erioed wedi ei fwynhau.

Hen elynion

Fe deithiodd Munster i Barc y Strade ar gyfer rownd yr wyth olaf yn y flwyddyn 2007, yn llawn hyder gan eu bod ar y pryd yn bencampwyr Ewrop. Ond y Scarlets sicrhaodd fuddugoliaeth hanesyddol y noson honno, nid y Gwyddelod. Fe dawelwyd pob ton o ‘Fields of Athenry’ wrth eu cefnogwyr hwy, gyda rygbi perffaith pymtheg dyn, gyda’r blaenwyr oll yn awyddus i efelychu doniau slic Regan King.

Bydd Munster a’u cefnogwyr yn teithio dros y môr gyda’r un hyder eto y penwythnos yma. Er fod y brenin Regan wedi ffoi i Ffrainc, roedd yna sawl chwaraewr ar y cae y noson honno a fydd yn gymorth mawr i’r garfan presennol wrth edrych ymlaen tuag at yr ornest bresennol. Roedd Mark Jones a’r capten Simon Easterbuy yno ar flaen y gad. Rwy’n sicr y bydd gan y ddau reolwr air o gyngor i’w rannu yn ystod yr wythnos.

Fe fydd Parc y Scarlets dan ei sang Nos Sadwrn yma. Does dim dwywaith fod gan y gêm yma’r potensial i fod yn glasur wrth ystyried doniau’r chwaraewyr, effaith y canlyniad ar y grŵp, a’r mater bychan fod nifer o bois y Scarlets wedi bod yn gyfrifol am ddanfon O’Connell a’i griw adref o Gwpan y Byd yn gynnar. Serch hynny bydd rhaid anwybyddu’r cyd-destun a mawredd y noson, gan geisio canolbwyntio ar 80 munud o rygbi yn unig.

Rwy’n ffyddiog fydd y stadiwm bron yn llawn, ac y bydd y cefnogwyr yn cymryd eu lle yn yr eisteddle ar gyfer y math o achlysur sydd ddim yn ymddangos ar y calendr yn rhy aml. Bydd y tensiwn, y gefnogaeth a’r canu ymysg y dorf, gan gefnogwyr o’r ddwy ochr, yn cyfrannu at ornest rygbi fythgofiadwy.

Mwynhewch y gêm.