Mae Kraft Foods yn mynd i gael gwared â 200 o swyddi – rhai yn Y Waun yn Sir y Fflint – fel rhan o’u cylluniau ad-drefnu wrth i’r cwmni  fuddsoddi  £50 miliwn yn eu ffatrioedd cynhyrchu siocled a bisgedi.

Mae’r cwmni, sy’n berchen Cadbury, yn dweud y bydd yn gwneud “buddsoddiad sylweddol” mewn pedwar o’u safleoedd dros y ddwy flynedd nesaf.

Ond fe fydd 200 o swyddi’n diflannu oherwydd diswyddiadau gwirfoddol ac adleoli dros y ddwy flynedd o fis Mawrth nesaf.

Fe fydd £6 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn ffatri cynhyrchu bisgedi’r cwmni yn Sheffield, gan greu 20 o swyddi newydd, ac fe fydd £44 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn eu ffatri cynhyrchu siocled, Bournville  yn Y Waun yng Ngogledd Cymru ac yn Marlbrook yn Swydd Henffordd.

Dywed Kraft mai bwriad eu cynlluniau yw cadw Bournville wrth galon y diwydiant, ac i gynhyrchu bisgedi BelVita ac Oreo yn y DU am y tro cyntaf.