Debbie Roberts
Os oes gan grŵp cymunedol syniad ar gyfer prosiect sy’n cefnogi gweithgaredd cymunedol i wella ansawdd bywydau yn eu hardal, mae cronfa’r loteri yn awyddus i glywed ganddynt.
Debbie Roberts yw Cadeirydd grŵp Unique Transgender Network yng Ngogledd Cymru.
Mudiad gwirfoddol sy’n cefnogi pobl drawsrywiol yng ngogledd Cymru a gorllewin Swydd Gaer yw’r grŵp.
Yn ddiweddar, fe gymerodd ran yn y prosiect Hyblygrwydd Rhyw, prosiect datblygu ymchwil a chefnogaeth sy’n cael ei redeg gan Ganolfan Rhagoriaeth LHDT Cymru yng Nghaerdydd a sy’n cael ei ariannu gan raglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr. Nod y prosiect yw datblygu rhwydwaith cryfach ar gyfer pobl drawsrywiol yng Nghymru ac i ddarparu mwy o gyngor a chefnogaeth ar gyfer unigolion fel Debbie sy’n profi newidiadau mawr yn eu bywydau.
Mae Debbie wedi siarad am ei phrofiad fel person trawsrywiol a sut mae’r grŵp wedi ei helpu i oresgyn rhwystrau.
Bwlio a stigma
Fe gafodd Debbie ei bwlio a’i phryfocio wrth dyfu i fyny ac mae hi’n dal i gredu y ceir cryn dipyn o stigma o hyd mewn perthynas â materion sy’n ymwneud a bod yn drawsrywiol. Mae’n credu mai “diffyg addysg” yw’r prif reswm dros hyn.
Nid yw mynd drwy’r holl newidiadau wastad wedi bod yn hawdd, meddai, ac mae’n cyfaddef bod cadw “dwy fodolaeth i fynd” yn dipyn o her pan nad oedd ei theulu’n gwybod amdani.
“Hyd yn oed pan oeddwn i’n briod byddwn yn gwisgo fel Debbie mor aml y gallwn,” meddai cyn dweud ei bod bellach wedi ysgaru oddi wrth ei gwraig.
“Nid oedd gan fy ngwraig y syniad lleiaf. Roedd hi bob amser yn meddwl fy mod yn ddyn eithaf benywaidd, ac roedd hi’n iawn gyda’r ffaith fy mod yn drawsrywiol. Ond, yr hyn a achosodd y rhwyg yw’r twyll a aeth ymlaen am gyfnod mor hir. Dw i’n gwybod bod angen dyn arni yn ei bywyd ac ni alla i fod y dyn hwnnw. Mae fy merched wedi bod yn wych a dw i’n aros gyda fy merch hynaf nes fy mod yn trefnu fflat ar fy nghyfer,” meddai Debbie.
‘Goresgyn rhwystrau’
Trwy’r gefnogaeth y mae Unique yn ei rhoi i unigolion a’r wybodaeth a hyfforddiant amrywiaeth y mae’n eu rhoi i’r gymuned ehangach – mae gwaith y grŵp wedi helpu pobl drawsrywiol i oresgyn rhwystrau ac i dderbyn eu hunain a chael eu derbyn gan bobl eraill, meddai.
“Pan fydd pobl yn ymwneud â chi, maen nhw’n sylweddoli mai person normal ydych chi,” meddai. “Rwyf am fod fy hun, a sicrhau bod Unique yn parhau i fynd o nerth i nerth,” meddai Debbie
“Dyna’r peth pwysicaf. Cefnogaeth i bobl drawsryw yw’r peth gorau y gallant ei gael. Nid yw llawer ohonom ni mor gryf â minnau, a gallant ddioddef problemau iechyd. Fel cymuned rydym yn gweld cryn nifer o bobl yn ceisio lladd eu hunain gan na allant gyrraedd y lle y maent eisiau bod yn ddigon cyflym, ac mae hynny’n effeithio ar eu hiechyd meddwl nhw a’u teuluoedd,” meddai.
‘Symiau bach – newidiadau mawr’
Yn ôl Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru mae’r prosiect hwn yn “enghraifft dda o sut gall symiau bach o arian wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl yn y cymunedau mwyaf anghenus.”
“Dyna pam rydym yn annog mwy o grwpiau a phrosiectau cymunedol i fanteisio’n llawn ar fuddion y rhaglen hon,” meddai.
“Neges syml sydd gennym – os oes gan grŵp cymunedol syniad ar gyfer prosiect sy’n cefnogi gweithgaredd cymunedol, yn estyn mynediad a chyfranogiad, yn cynyddu sgiliau a chreadigrwydd neu’n gwella ansawdd bywydau yn eu hardal yn gyffredinol, yn bendant rydym am glywed oddi wrthynt.”
Ar hyn o bryd mae Debbie yn mynd drwy’r broses o ail-aseinio rhyw ac mae hi ar y rhestr aros ar gyfer llawdriniaeth, tua dwy flynedd i ffwrdd. Mae’n broses hir, ond mae hi’n credu y bydd yn fodlon ei byd yn y pen draw.