Bydd grŵp sy’n ymgyrchu i achub canolfan ddydd i’r henoed yn Aberystwyth yn cyflwyno deiseb gyda 4,000 o enwau arni i Gyngor Sir Ceredigion fory, er mwyn ceisio’i hachub.

Bydd Grŵp Achub Canolfan Ddydd Coedlan y Parc yn cyflwyno’r ddeiseb i brif swyddogion y Cyngor Sir yfory am 9.45am.

Mae canolfan yr henoed dan fygythiad yn sgil cynlluniau i ddatblygu Tesco newydd yn y dre.

Adeiladwyd y ganolfan ddydd 30 mlynedd yn ôl, ac mae’n gwasanaethu dros 100 o henoed a phobol anabl a’u gofalwyr erbyn hyn.

Mae’r ymgyrch i achub y ganolfan eisoes wedi denu cefnogaeth yr Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, a’r Aelod Seneddol lleol, Mark Williams.

Yn ôl cadeirydd y Grŵp, Gerald Morgan, mae’r grŵp eisiau “cadw’r ganolfan ddydd, a’i chyfleusterau presennol,” gan eu bod yn cynnig “help, cysur a chwmniaeth i bobol.”

Mae’r cynghorydd sir lleol, Alun Williams, wedi beirniadu’r modd y mae Cyngor Ceredigion wedi rhoi dyfodol y Ganolfan Ddydd yn y fantol.

“Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi delio â phroses y ganolfan ddydd yn eithriadol o wael. Cafodd y penderfyniad ei ruthro gan Gabinet y Cyngor, heb unrhyw gyfle am fewnbwn gan ddefnyddwyr y ganolfan  na’r cyhoedd.”

Mae’r grŵp nawr yn ceisio perswadio Cabinet Cyngor Ceredigion i achub y Ganolfan Ddydd.

Hyd yn hyn, maen nhw wedi bod yn cynnal protestiadau rheolaidd tu allan i’r Ganolfan yng Nghoedlan y Parc bob dydd Sadwrn, rhwng 2 a 3 o’r gloch. Maen nhw hefyd wedi anfon llythyron at y Cyngor yn gwrthwynebu dymchwel y Canolfan Ddydd.

Yfory, fe fydd yr ymgyrchwyr yn mynd â’r ddeiseb at y Cyngor Sir ei hun yn Aberaeron, ac yn gobeithio’i gyflwyno i Brif Weithredwr y Cyngor Sir, Bronwen Morgan, ynghyd â’r Arweinydd Keith Evans.