Mae proffwydi’r tywydd wedi rhybuddio fod disgwyl i eira daro tir uchel yng ngogledd Cymru heddiw.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd llym yn yr Alban ond maen nhw’n dweud y bydd yr eira hefyd yn cyrraedd bryniau gogledd Cymru a Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd fod disgwyl tywydd gaeafol prynhawn ma a hefyd yfory.
Yfory fe fydd glaw ar arfordir gogleddol Cymru a rhywfaint o eira ymhellach i mewn i’r tir, wrth i’r tymheredd syrthio i -1 gradd Celsius, medden nhw.
Gorllewin yr Alban fydd yn ei chael hi waethaf dros y dyddiau nesaf. Dywedodd Adran Drafnidiaeth yr Alban eu bod nhw eisoes wedi rhoi cynllun ar waith er mwyn sicrhau nad oes gormod o aflonyddwch yn ystod yr awr frys bore yfory.
Daeth i’r amlwg ddoe fod cynghorau Cymru a Lloegr wedi pentyrru mwy o raean eleni na gafodd ei ddefnyddio drwy gydol y gaeaf diwethaf.
Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol fod cynghorau Cymru a Lloegr wedi pentyrru tua 1.4 miliwn tunnell o raean rhyngddyn nhw.