Mae dyn wedi dioddef anaf difrifol i’w ben ar ôl disgyn o dacsi oedd yn symud yn oriau man y bore heddiw.

Roedd y Fiat Ducato du yn teithio ar yr A4061 rhwng pentref Bryncethin a’r cylchfan ar gyffordd 36 yr M4 ger Pen y Bont ar Ogwr.

Aethpwyd a’r dyn 35 oed i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen y Bont ar Ogwr. Mae ei deulu wedi cael gwybod am beth ddigwyddodd, toc cyn 1am.

Mae Heddlu De Cymru yn galw ar unrhyw un a welodd y tacsi cyn i’r dyn ddisgyn i gysylltu â nhw.

Dylai unrhyw lygaid dystion gysylltu â’r uned heddlua ffyrdd ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.