Ben a Catherine Mulanny
Mae rhieni cwpwl a gafodd eu llofruddio tra ar eu mis mêl yn gobeithio y bydd eu llofruddwyr yn cael eu dedfrydu heddiw, ar ôl misoedd o aros.
Cafodd Ben a Catherine Mullany eu saethu tra ar wyliau ar Ynys Antigua, bythefnos wedi iddyn nhw briodi yn 2008.
Torrodd Kaniel Martin, 23, ac Avie Howell, 20, i mewn i fwthyn moethus Ben a Catherine Mullany, a’u gorfodi i benlinio cyn saethu’r ddau yng nghefn eu pennau.
Mae’r ddau eisoes wedi eu cael yn euog o ladd y pâr priod o Rhos, ger Pontardawe, ers mis Gorffennaf diwethaf.
Ers hynny, mae Kaniel Martin ac Avie Howell wedi bod yn ôl yn y llys sawl tro.
Ond mae’r achos yn dal heb ddod i ben yn iawn, er bod tair mlynedd bellach ers i’r cwpwl gael eu lladd.
Mae oedi wrth orffen adroddiadau seicolegol wedi gwthio’r ddedfryd yn ôl sawl tro, a fis diwethaf bu’n rhaid i’r gwrandawiad dedfrydu gael ei ohirio eto, ar y funud olaf, wedi i gyfreithiwr Kaniel Martin fynd yn sâl.
Yn ôl ffrindiau’r teulu, mae’r ansicrwydd ynglŷn â’r ddedfryd wedi achosi straen mawr iddyn nhw.
“Mae’r chwe mis diwethaf wedi bod yn anodd iawn i fam a thad Ben, Marilyn a Cynlais,” meddai’r ffrind.
“Fuodd raid iddyn nhw aros amser hir iawn i’r achos llys ddechrau’n iawn, ac fe fuon nhw yn y llys bob dydd.
“Roedd hi’n ryddhad iddyn nhw pan gafodd y ddau eu canfod yn euog, a’r gobaith bryd hynny oedd y byddai dedfrydu’n digwydd yn weddol cyflym
“Ond mae dros pedair mis wedi mynd nawr.”
Mae disgwyl y bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn Uchel Lys yr ynys yn Sant John heddiw.