Mae dyn wedi marw neithiwr ar ôl digwyddiad tu allan i Orsaf Heddlu Llanelli, lle cafodd ei arestio.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi bod Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn cynnal ymchwiliad annibynnol i’r mater.

Mae’n ymddangos fod y dyn wedi llyncu eitemau  wrth i’r Heddlu ddod tuag ato, cyn iddo gwympo i’r llawr.

Fe wnaeth swyddogion Heddlu Dyfed Powys roi Cymorth Cyntaf iddo a galw ambiwlans – ond bu’r dyn farw. Mae’r crwner a pherthnasau agosaf y dyn wedi’u hysbysu.

Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal gan batholegydd y Swyddfa Gartref ac mae ymholiadau i mewn i amgylchiadau’r farwolaeth yn parhau.