Mae Heddlu’r Gogledd yn lansio eu hymgyrch Nadolig er mwyn atal yfed a gyrru a chymryd cyffuriau a gyrru heddiw.

Maen nhw’n rhybuddio y gall “hyd yn oed ychydig iawn o alcohol amharu ar allu person i yrru” felly’r unig gyngor diogel yw “osgoi alcohol os ydych yn gyrru.”

Mewn gair o rybudd, mae’r heddlu’n annog pobl i ddweud “na” i alcohol a chyffuriau os ac yn rhybuddio y gall yfed a gyrru arwain at:

  • Golli eich swydd
  • Cael eich gwahardd rhag gyrru
  • Cael cofnod troseddol
  • Dirwy o £5,000
  • Cyfnod yn y carchar
  • Colli eich bywyd

Maen nhw hefyd yn galw ar bobl i fod yn ofalus gydag unrhyw feddyginiaeth, gan ddweud ei bod yn gyfrifoldeb ar bob gyrrwr i sicrhau eu bod yn ddiogel i yrru.

“Os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth, gwnewch yn siŵr nad yw eich gallu i yrru’n cael ei amharu arno. Y ffordd orau i gael mwy o wybodaeth am hyn yw gofyn am gyngor gan feddyg, gweithiwr iechyd proffesiynol neu fferyllydd,” meddai’r heddlu.

Mae’r Heddlu’n awgrymu y dylai pobl drefnu tacsi, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu aros dros nos yn dilyn dathliadau dros y Nadolig.

Mae’r heddlu hefyd yn rhybuddio ei bod yn  bosibl cael hyd at 14 mlynedd o garchar, ynghyd â dirwy ddiderfyn, gwahardd rhag gyrru am o leiaf dwy flynedd a gorfod cymryd prawf ychwanegol am achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal tra o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.