Yr Eisteddfod yn gorfod ymateb i'r cymylau duon ariannol
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd yn torri £200,000 yn ei gwariant o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Daw hyn ar ôl cadarnhad yng Nghyngor yr Eisteddfod heddiw i Brifwyl Wrecsam wneud colled ariannol o £90,000 – bron ddwywaith y golled o £47,000 a wnaed ym Mlaenau Gwent y llynedd.

“Bu’n flwyddyn anodd i’r Eisteddfod fel cynifer o sefydliadau eraill, oherwydd hinsawdd economaidd y wlad,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

“Cafodd hyn effaith ar incwm tocynnau cyngherddau, stondinau a nawdd corfforaethol, a thrwy hynny, gwnaethpwyd colled o 4 y cant eleni.

“Llwyddwyd i reoli gwariant yr Eisteddfod ac unwaith eto eleni nid yw’r golled yma’n arwydd o unrhyw gamreoli gwariant.”

Mewn ymateb i’r colledion hyn rhoddodd Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod sêl bendith i’r arbedion neithiwr.

Gan gydnabod y bydd yr arbedion yn arwain at “newidiadau gweledol” o’r flwyddyn nesaf ymlaen, dywedodd Elfed Roberts fod y Tîm Rheoli’n gweithio ar y manylion ar hyn o bryd.

“Y prif amcan yw gwarchod gweithgareddau diwylliannol y Brifwyl a diogelu staff,” meddai.