Llun gwneud o ran o'r datblygiad (o wefan Maxhard)
Mae cynlluniau ar droed i godi pentref gwyliau yn Nyffryn Tywi sy’n anelu at ddenu ymwelwyr rhyngwladol, yn enwedig rhai o China.

Mae cwmni Maxhard sydd â’i wreiddiau yn China yn gwneud cais cynllunio i godi 80 o dai gwyliau a gwesty 92 stafell wely ar stad Pantglas yn Llanfynydd gerllaw Llandeilo.

Mae yna bentref gwyliau yno ar hyn o bryd, gyda chabanau pren, a nod y cwmni yw creu canolfan o safon uchel  y drws nesaf gyda bwyty, stafell gynhadledd a phwll nofio.

Yn ôl y cwmni, fe fyddai’r cynllun yn creu tua 65 o swyddi.

Maen nhw’n dweud y bydd y cynllun cyfan yn costio tua £50 miliwn ac mae lluniau ar wefan y cwmni’n dangos y gwesty wedi’i godi o amgylch tŵr – yr unig ran o hen blasty Pantglas sydd ar ôl.

Oherwydd y tŵr, mae’r cwmni wedi gorfod gwneud cais cynllunio i addasu adeilad sydd wedi ei restru ar Raddfa II – mae hawl cynllunio cyffredinol eisoes ar gael ar gyfer datblygiadau gwyliau ar y safle.