Mae yna bryder fod chwech o bobol, gan gynnwys tri o blant, wedi marw ar ôl i awyren daro Mynydd Superstition yn nhalaith Arizona heddiw.

Daethpwyd o hyd i gorff bachgen ger safle’r ddamwain i’r dwyrain o ddinas Phoenix. Dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw arwydd fod unrhyw un wedi goroesi.

Dyweddd Siryf Sir Pinal, Paul Babeu, fod yr awyre ysgafn wedi hedfan o from Safford i Mesa er mwyn nol y plant pump i naw oed cyn gwyliau Diolchgarwch.

Roedd peilot, peiriannydd ac oedolyn arall ar yr awyren, meddai.

Mae’r mynydd  yn cael ei enw o gred tylwyth yr Apache fod twll sy’n arwain i lawr i’r Isfyd  y tu mewn iddo.