Mae disgwyl i 14 o swyddi eraill fynd gyda chwmni Media Wales sy’n gyfrifol am bapur y Western Mail, yn ôl cyhoeddiad heddiw.

Bydd Media Wales yn torri’n ôl ar naw aelod o staff yn yr adran hysbysebu a phump aelod o’r staff golygyddol.

Mae’r cyhoeddiad yn ergyd arall i gwmni sydd eisoes wedi gorfod diswyddo 23 aelod o staff yn sgîl toriadau yn ystod yr haf eleni.

Mae’r newyddion yn codi rhagor o bryderon ynglŷn â dyfodol y Western Mail, ar ôl i brif ohebydd y papur, Martin Shipton, rybuddio ddydd Iau diwethaf na allai’r Western Mail barhau’n bapur dyddiol os byddai rhagor o doriadau staff yn digwydd.

Dywedodd Martin Shipton wrth Golwg 360 heddiw fod y rhybudd hynny wedi ei wneud ddydd Iau cyn iddo glywed unrhyw sôn fod rhagor o doriadau ar y gweill.

“Mae hyn wedi’n synnu ni i gyd,” meddai Martin Shipton heddiw, “doedd gen i ddim syniad fod y toriadau yma ar fin cael eu cyhoeddi.”

Yn ôl Martin Shipton, roedd y gweithlu wedi cymryd yn ganiataol mai cyhoeddiad fis Gorffennaf, fod 23 o swyddi i gael eu torri, fyddai diwedd y toriadau am eleni.

“Ry’n ni’n bryderus iawn am y dyfodol,” meddai Martin Shipton.

‘Toriadau di-ddiwedd’

Mae’r toriadau hyn yn Media Wales yn rhan o gynllun toriadau ehangach gan riant-gwmni Media Wales, sef Trinity Mirror.

Mae Trinity Mirror wedi cyhoeddi fod gwerth £25 miliwn o arbedion i gael eu gwneud ar draws gwahanol ganghennau’r cwmni eleni.

“Mae’r cyhoeddiadau yma gan Trinity Mirror i Ddinas Llundain yn trafod ‘arbedion’ – ond i’r gweithlu, mae’r ‘arbedion’ hynny yn golygu colli swyddi,” meddai Martin Shipton.

“Y cyfan mae’r gweithwyr yn ei weld yw toriadau di-ddiwedd.”

Yn ôl Martin Shipton, dyw penaethiaid Trinity Mirror ddim wedi rhoi unrhyw ymateb i’r pryderon sydd gan weithwyr Media Wales ynglŷn ag effaith y toriadau.

“Dy’n ni ddim wedi clywed unrhyw beth ganddyn nhw i roi unrhyw obaith i ni,” meddai.

Mae’n rhoi llawer o’r bai ar y diffyg arweiniad gan Trinity Mirror, ac yn enwedig ar fethiannau’r Prif Weithredwr, Sly Bailey, sydd wedi “bod wrth y llyw wrth i doriadau anferth gael eu rhoi ar y cwmni, ac wrth i elw y cwmni grebachu.”

Pryderu am flwyddyn nesaf

Mae Martin Shipton yn dweud fod y toriadau diweddaraf yn dod â’r pryderon dros ddyfodol Media Wales, a’r Western Mail, gam yn agosach.

“Os fyddan nhw’n dod yn ôl flwyddyn nesa’ ac yn cyhoeddi toriadau tebyg – a byddai hynny ddim yn syndod o gwbwl i ni – mae hi wedi cyrraedd pwynt lle bydd hi’n anodd iawn i ni barhau fel ag yr ydyn ni.”

Mae Martin Shipton eisoes wedi rhybuddio y gallai’r Western Mail gael ei orfodi i droi’n bapur newyddion wythnosol oherwydd y toriadau.

Ac yn ôl y newyddiadurwr, gallai rhagor o doriadau o’r raddfa yma effeithio ar “ddarpariaeth newyddion craidd” Media Wales.

“Dwi ddim yn dymuno gweld dim o hyn yn digwydd,” meddai wrth Golwg 360, “ond mae’r cwmni’n gwneud eu gorau i gadw elw tra’n gorfodi toriadau ar eu gweithlu.”