Cafodd nifer o dai a ffyrdd eu heffeithio gan y cawodydd o law trwm dros nos, gyda gwasanaeth tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu galw allan sawl tro i ddelio â llifogydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru wrth Golwg 360 fod y gwasanaeth wedi derbyn pum galwad rhwng 6.46am a 7.56am y bore ’ma er mwyn mynd i helpu gyda draeniau yn gorlifo, a hewlydd a thai dan ddŵr.

Yn ôl Cyngor Sir Benfro, cafodd dau o briffyrdd y sir eu cau am gyfnod y bore ’ma yn sgil y llifogydd – yr A4075 ym Mhenfro a’r A4115 rhwng Cross Hands a Templeton.

Bu’n rhaid i’r gwasanaeth tân hefyd ddelio â llifogydd mewn nifer o dai yn ardal Pont Canaston a Doc Penfro.

Dosbarthu sachau tywod

Yn ystod y bore ’ma, mae Cyngor Sir Benfro wedi bod yn mynd â sachau tywod i gartrefi yn ardaloedd Arberth, Clunderwen a Llanfyrnach.

Daw’r camau ychwanegol hyn wrth i Asiantaeth yr Amgylchedd rybuddio ardaloedd yn ne orllewin Cymru y gallai rhagor o law trwm ddilyn yn y 24 awr nesaf.

Yn ôl yr asiantaeth, mae’r “cyfuniad o gyflwr y tir, lefelau presennol a rhagolygon glaw, yn rhoi risg uchel o lifogydd ar dir isel yn ystod y 24 awr nesaf.”