Gallai nifer cynghorwyr sir Ynys Môn ostwng o 40 i 30, yn ôl cynigion drafft sydd wedi eu cyhoeddi heddiw gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru.
Mae prif elfennau’r cynlluniau yn cynnwys gostwng nifer cynghorwyr sir yr Ynys o 40 i 30 a chreu 11 rhanbarth etholiadol aml-aelod newydd. Byddai wyth ohonyn nhw yn cael eu cynrychioli gan dri chynghorwr sir a’r tair arall yn cael eu cynrychioli gan ddau gynghorwr sir.
Mae un cynghorydd o Fôn wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn “anhapus” â’r cynlluniau. Yn ôl Bob Parry, mae cynlluniau o’r fath yn “gofyn gormod” . Mae’n pryderu mai “cychwyn cynllun” o uno Cyngor Gwynedd a Chonwy gan greu un cyngor mawr yw’r newidiadau.
‘Newidiadau daearyddol a diwylliannol’
Dywedodd y Prif Weithredwr dros dro, Richard Parry Jones, y byddai cyfarfod arbennig o’r Cyngor Sir yn cael ei gynnal i drafod y cynigion. “Byddai’r cynigion yma, petae nhw’n cael eu derbyn, yn cynrychioli newidiadau daearyddol a diwylliannol sylweddol i etholwyr Ynys Môn.”
“Byddwn yn annog etholwyr Ynys Môn i edrych yn fanwl ar gynigion y Comisiwn Ffiniau a chyflwyno eu sylwadau yn uniongyrchol at y Comisiwn erbyn 3 Ionawr 2012. Caiff y sawl sydd â diddordeb hefyd wneud sylwadau ar yr enwau arfaethedig sydd wedi eu cynnig ar gyfer y rhanbarthau etholiadol newydd neu gynnig dewis arall.”
“Rhaid pwysleisio fod hwn yn broses ymgynghorol ac yn gyfle i chi ddylanwadu ar lywodraethu’r Ynys i’r dyfodol ac felly mae’n bwysig fod pawb gyda diddordeb yn cael dweud eu dweud,” meddai.
Ar ôl 3 Ionawr 2012, bydd y Comisiwn yn ystyried sylwadau wedi eu derbyn gan etholwyr a budd-ddeiliad perthnasol. Mae’n debygol y bydd yr argymhellion terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant AC, erbyn y gwanwyn 2012.
Bydd y Gweinidog wedyn yn ystyried argymhellion y Comisiwn ac unrhyw sylwadau ychwanegol cyn gwneud penderfyniad terfynol ar newidiadau i’r rhanbarth etholiadol, os o gwbl, erbyn canol 2012.
‘Gofyn gormod’
“Mae’r newidiadau’n rhai mawr,” meddai’r Cynghorydd Sir, Bob Parry wrth Golwg360 cyn dweud fod y newidiadau’n “gofyn gormod.”
“Mae’r newidiadau’n mynd i olygu llawer iawn mwy o waith i’r cynghorwyr sydd yna. Bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn gynghorwyr llawn amser. Y bobl rydach chi angen ar y Cyngor yw pobl ifanc. Ond does neb yn mynd i adael eu gwaith am bedair blynedd a dim sicrwydd y bydd ganddyn nhw le wedyn.
“Maen nhw eisiau mwy o ferched i ddod. Ond mae’n anodd iddyn nhw fod yn y Cyngor bedwar diwrnod yr wythnos pan mae ganddyn nhw blant bach,” meddai.
“Peth nesa fyddan nhw’n ddweud ydi bod y Cyngor yn rhy fychan a bod rhaid uno gyda Gwynedd a Chonwy gan greu un Cyngor mawr. Mae hynny ar y cardiau – does dim dowt am y peth. Cychwyn y cynllun yw hwn. Rydan ni yn Sir Fôn fel guinea pigs. Fydd ganddyn nhw tan 2016 wedyn i wneud run fath i’r cynghorau eraill,” meddai’r cynghorydd.
Fe ddywedodd ei fod yn tynnu at ddiwedd ei amser yn y Cyngor Sir ai fod yn pryderu nad yw 30 o gynghorwyr yn gallu “sicrhau’r trawstoriad sydd ei angen” yno.
“Beth sy’n mynd i ddigwydd – mae gymaint o waith yn mynd i fod gyda’r cynghorwyr – yr hyn rydach chi’n mynd i’w gael yw pentwr o gynghorwyr wedi ymddeol o’u gwaith,” meddai.