Mae Cyfeillion y Ddaear wedi beirniadu Llywodraeth Cymru heddiw, ar ôl i ffigyrau ddatgelu fod llai o egni wedi cael ei gynhyrchu gan ffynonellau adnewyddol yng Nghymru yn 2010 nac yn 2008.

Yn ôl y ffigyrau gan yr adran Ynni a Newid Hinsawdd, mae cyfanswm y trydan sy’n cael ei gynhyrchu gan ffynonellau adnewyddol wedi gostwng yng Nghymru eleni, tra bod gweddill y Deyrnas Unedig wedi cynyddu eu ffynonellau adnewyddol o 20%.

Yn ôl Cyfeillion y Ddaear, mae Llywodraeth Cymru wedi methu eu targed ynni adnewyddol ar gyfer 2010 o “fwlch anferth.” Mae’r ffigyrau’n dangos fod 1.6TW yr awr wedi ei gynhyrchu yng Nghymru yn ystod 2010, dim ond 40% o’r targed o 4TW yr awr.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi methu eu targedau ar ynni cynaliadwy o’r fath fwlch nes bod y peth yn gywilyddus,” meddai Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.

“Tra bod cynhyrchu ynni gwyrdd wedi cynyddu’n raddol o gwmpas y byd, yng Nghymru ry’n ni’n mynd am yn ôl. Mae pob gwlad arall yn y Deyrnas Unedig wedi symud yn eu blaen – mae’r Alban nawr yn cynhyrchu bron i chwe gwaith mwy o ynni cynaliadwy na Chymru.”

‘Ynni gwyrdd i greu swyddi’

“Mae angen i Weinidogion Cymru agor eu llygaid i’r ffaith fod egni adnewyddol fel solar, gwynt a thonnau yn golygu swyddi,” meddai Gareth Clubb.

“Mae gan Gymru botensial aruthrol i ddarparu egni gwyrdd, glan, ac i fanteisio o’r miloedd o swyddi a ddaw yn eu sgil.”

Yn ôl Cyfeillion y Ddaear, mae rhywbeth mawr wedi mynd o’i le yng Nghymru yn ôl yr ystadegau diweddaraf ar egni adnewyddol.

“Os yw’r methiant hwn wedi dod yn sgil San Steffan yn llusgo’u traed dros sefydlu seilwaith egni angenrheidiol, mae’n bryd i Lywodraeth Cymru ddechrau newid pethau.”

Daw’r ffigyrau damniol hyn lai nag wythnos ers i Lywodraeth Cymru longyfarch eu hunain ar ostwng eu hallyriadau carbon o 11% y llynedd.

Ddydd Iau diwethaf, fe gyhoeddodd y Llywodraeth eu bod wedi curo’u targed ar gyfer gostyngiad o 10% mewn allyriadau carbon mewn rhannau arbennig o ystad y Llywodraeth erbyn 2010.

Ond mae’r ffigyrau diweddaraf, yn ôl Cyfeillion y Ddaear, yn codi cwesitynau ynglŷn â pha mor bwysig yw’r mater i’r Llywodraeth.

Mae Golwg 360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.