Andrew R T Davies
Mae ffigurau newydd yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy na £16.5 miliwn ar adnewyddu Adeilad Parc Cathays yng Nghaerdydd.

Yn ystod y dair blynedd diwethaf, mae’r cyfanswm blynyddol y wariant ar y swyddfeydd yn fwy na £4 miliwn, a rhagwelir £3.7 miliwn yn rhagor o wariant ar gyfer 2011/2012.

Mae’r costau wedi eu datgelu gan y Ceidwadwyr Cymreig, sy’n cwestiynu’r swm o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yn yr hinsawdd economiadd bresennol.

Mae Gweinidogion wedi amddifyn y gwariant, gan bwysleisio bod yr arian sydd wedi ei wario ar yr adeilad wedi bod o fudd i’r diwydiant adeiladu.

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad wedi dweud fod ganddo ‘bryderon mawr’ am effeithlonrwydd a’r gwerth o ran arian.

‘‘Mae yna nifer o fusnesau yng Nghymru a fyddai’n elwa o gefnogaeth ariannol, ond yn hytrach na hynny mae’n well gan y Blaid Lafur wario arian y trethdalwyr ar swyddfeydd gweision sifil’’, meddai Andrew R T Davies.

Mae Parc Cathays yn weithle i 2,300 o staff.

Mae’n cynnwys dau adeilad – Parc Cathays 1, adeilad rhestredig Gradd 2 a agorwyd yn 1938, ac hefyd yr adeilad mwyaf modern Parc Cathays 2 a gwblhawyd yn 1979.

Yn ôl ffigurau Ceidwadwyr Cymru, yn 2008/09 cafodd £4.01 miliwn ei wario ar adnewyddu’r swyddfeydd – gyda blynyddoedd dilynol yn costio £4.5 miliwn a £4.37 miliwn.

Rhagwelir y bydd £3.7m yn cael ei wario yn 2011/12.

‘‘Rwy’n ofni bod y costau hyn yn ormodol ac yn wastraffus yn ystod yr hinsawdd bresennol yma,’’ meddai Andrew R T Davies.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfiawnhau’r gwariant ar Barc Cathays, gan ddweud bod llawer ohono wedi mynd tuag at ‘iechyd hanfodol a gwaith diogelwch’, yn ogystal â gwneud yr adeilad yn fwy cynaliadwy a lleihau ôl troed carbon.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: ‘‘Bydd pob prosiect yn mynd drwy weithdrefnau llym er mwyn sicrhau gwerth am arian.

‘‘Bydd buddsoddi yn ein stad o fudd i’r sector adeiladau a busnesau lleol.

 ‘‘Dros y pum mlynedd nesaf bydd ein cynlluniau i gynyddu effeithlonrwydd ac effeitholrwydd ein stad yn cynhyrchu arbedion cronnol o dros £18 miliwn – gan ddod ag arbedion cost blynyddol o £5.3 miliwn o 2015’’.