LLys y Goron Caerdydd
Mae dyn o Gaerdydd wedi’i garcharu am bedair blynedd ar ôl annog trais drwy ddefnydd gwefan Facebook yn ystod terfysgoedd fis Awst.

Roedd Jamie Counsel wedi creu tudalen ar wefan Facebook ar 9 Awst yn galw am ddod â’r terfysgoedd i Gaerdydd.

Fe gafodd y dudalen ei newid yn ddiweddarach i geisio annog y terfysgoedd i ddod i Abertawe.

Fe gafodd y dyn 25 blwydd oed o Gaerdydd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw. Roedd wedi pledio’n euog ym mis Medi.

Eisoes, cafodd Jordan Blackshaw, 20 a Perry Sutcliffe-Keenan, 22 yr un dedfrydau yn Llys y Goron Caer ym mis Awst am geisio dechrau terfysgoedd drwy ddefnydd  Facebook.