Dylai ysmygu mewn ceir  fod yn anghyfreithlon – dyna fydd neges meddygon  i’r Llywodraeth heddiw.

Mae cymdeithas feddygol y BMA yn galw ar weinidogion i gyflwyno’r gwaharddiad fel modd i fynd i’r afael a phroblemau iechyd.

Mae’r dystiolaeth gan y BMA yn awgrymu bod ysmygu mewn cerbyd caëdig yn golygu bod lefelau tocsinau 23 gwaith yn uwch nag mewn bar myglyd arferol.

A’r hyn sy’n gwneud ysmygu mewn ceir yn waeth, medd y BMA, yw’r ffaith fod ysmygu mewn ceir yn effeithio ar blant ifanc a’r henoed – sy’n debygol o gael eu heffeithio’n waeth gan y lefelau uchel o gemegolion yn yr aer.

Mae plant yn amsugno mwy o gemegolion llygredig nag oedolion, ac mae eu systemau imiwnedd ifanc yn methu ag ymdopi cystal gydag effeithiau ysmygu ail-law, yn ôl y BMA.

Mae pobol hŷn yn dueddol o ddioddef o broblemau anadlu, a gall hyn gael ei waethygu wrth anadlu mwg sigarets, rhybuddiodd y meddygon.

Mae’r BMA hefyd yn pwysleisio mai dyma’r garfan o bobol sy’n fwyaf dibynnol ar gael rhannu car gydag oedolion, ac felly’n methu â gwrthod yn rhwydd iawn os yw’r oedolion hynny yn ysmygu.

Cyfle arall i Gymru?

Roedd Cymru ar flaen y gad wrth wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Ngwledydd Prydain, pan gyflwynwyd y ddeddf gan Lywodraeth Cymru yn ôl ym mis Ebrill 2007.

Y Llywodraeth yng Nghymru fydd hefyd â’r gair olaf ar benderfynu os yw’r gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir yn cael ei gyflwyno neu ei wrthod yng Nghymru.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Tony Jewell, eisoes wedi dweud ei fod yn anghyfforddus gyda’r modd y mae plant yn dal i gael eu heffeithio gan ysmygu ail-law.

Ymgyrchu yn lle deddfu

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru heddiw fod y Prif Weinidog Carwyn Jones eisoes wedi cyhoeddi “y byddai Llywodraeth Cymru yn dechrau ymgyrch genedlaethol ar y cyfryngau ar gyfer y tair blynedd nesaf er mwyn taclo effeithiau mwg ail-law.

“Bydd pwyslais mawr fan hyn ar ddiogelu plant rhag gorfod delio â mwg ail-law mewn cerbydau preifat, gan eu bod nhw’n arbennig o fregus i effeithiau ysmygu, ac nad oes modd ganddyn nhw ddianc rhag mwg ail-law, ac yn fwy tebygol o ddatblygu cyflyrau tymor hir fel asthma.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cymryd camau deddfwriaethol os nad yw nifer y plant sy’n cael eu heffeithio gan fŵg ail-law yn dechrau gostwng o fewn y tair blynedd nesaf, ar sail casgliadau arolygon cyhoeddus.”

Dywedodd y llefarydd fod y Llywodraeth hefyd yn “pryderu dros effeithiau niweidiol mwg ail-law ar oedolion.”

Mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod yn addo comisiynu gwaith ymchwil rheolaidd yn ystod yr ymgyrch i weld a oes newid yn  nifer y bobol sy’n cael eu heffeithio gan ysmygu ail-law.

Cwestiynu’r angen

Daw’r galwadau yn sgil lansio papur briffio’r BMA wrth i Aelodau Seneddol baratoi at drafod y posibilrwydd o wahardd ysmygu mewn ceir lle mae plant yn bresennol – fel sydd eisoes yn digwydd yn America ac Awstralia.

Ond mae’r grŵp sy’n ymgyrchu dros hawliau’r unigolyn, Forest, wedi beirniadu’r galwadau.

Yn ôl cyfarwyddwr y grŵp, Simon Clark, mae deddfu ar y mater yn “or-ymateb enfawr. Beth fydd nesa’ – gwahardd ysmygu yn y cartref?”

Mae’r Prif Weinidog David Cameron hefyd wedi dangos ei fod yn anghysurus â’r galwadau.

Yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, dywedodd David Cameron, sydd ei hun yn gyn-ysmygwr, ei fod yn hapus gyda’r gwaharddiad presennol ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus, ond ei fod yn “llawer mwy nerfus ynglŷn ag ymyrryd â’r hyn y mae pobol yn ei wneud tu fewn i gerbyd.”