Mae’r Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth am ddau ddyn ar ôl i ddynes oedrannus ddioddef lladrad yn ei chartref.
Fe ddigwyddodd y lladrad rhwng 1.30pm a 3.30pm Ddydd Sul, 14 Dachwedd ym Mae Cemaes, Ynys Môn.
Fe wnaeth dau ddyn orfodi dynes 70 mlwydd oed i mewn i’w hystafell fyw a chloi’r drws wrth iddyn nhw chwilio’r tŷ am eiddo – cafodd gliniadur Dell Inspirion du ei ddwyn.
Caiff un ei ddisgrifio fel dyn gwyn, rhwng 25 a 30 oed– tua pum troedfedd naw i bum troedfedd 11 o daldra. Roedd yn gwisgo siaced cynfas fudr lwyd/gwyrdd gyda phedair poced ar y blaen, het beanie llwyd-wyrdd a menig du.
Mae’r ail ddyn yn wyn, yn ei 20au cynnar, tua phum troedfedd saith o daldra. Roedd yn gwisgo top hwd lwyd gyda phocedi a siaced ddu gyda botymau.
Mae’r Heddlu’n chwilio am wybodaeth am unrhyw un o’r dynion ac eisiau clywed gan unrhyw un a’u gwelodd yn ardal Bae Cemaes ddydd Sul – neu sydd â gwybodaeth am y gliniadur.
Maen nhw hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un wnaeth gerdded ar hyd y llwybr arfordirol rhwng Cemaes a Llanbadrig yn ystod y dydd.
Yn ôl yr Heddlu, roedd y digwyddiad wedi dychryn y ddynes oedrannus.
Mae’r Heddlu yn cynnal patrolau ychwanegol yn yr ardal.