Mae’n ymddangos mai bywyd byr iawn fydd gan y cyd-weithio diweddar rhwng gwrthbleidiau’r Cynulliad, os fydd Llafur yn dod i guro ar y drws gyda digon o gyfaddawd ar y gyllideb ddrafft.

Wrth drafod y gwelliannau sydd wedi eu cynnig i gyllideb ddrafft y Llywodraeth ar y cyd rhwng gwrthbleidiau’r Cynulliad, cyfaddefodd arweinwyr y pleidiau hynny heddiw y byddai’r flaenoriaeth yn cael ei roi i ofynion y blaid, dros gadw’r consensws gwrthbleidiol.

Wrth drafod y gwrthwynebiad  sydd gan y gwrthbleidiau i’r gyllideb ddrafft heddiw, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, fod pob un o’r arweinwyr yn “deall beth yw natur gwleidyddiaeth,” a bod ei ddrws e’n “dal ar agor” i gynnig gwell gan Lafur.

Mae’r gwelliannau sydd wedi cael eu cynnig gan y gwrthbleidiau yn ymwneud a’r economi, sef prif bwyslais Plaid Cymru, a iechyd, sef pwyslais y Ceidwadwyr, ac addysg, blaenoriaeth y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: “Yn absenoldeb unrhyw ymateb gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn yr ydyn ni wedi bod yn ei drafod, mae’r gwrthbleidiau yn mynd i barhau i geisio gweithio gyda’i gilydd i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i wrando ar y pryderon hynny.”

Yn ôl Andrew RT Davies, dim ond agwedd realistig tuag at sicrhau gwelliannau yn y gyllideb yw hyn.

“Mae fyny iddyn nhw weithio gyda’r rhifau nawr, i weld lle gallan nhw gael dêl, ac wedyn fe fyddan nhw unai’n dod yn ôl aton ni, neu fyddan nhw ddim, a hyd yn hyn dydyn nhw ddim wedi.”

Mae’r gwrthbleidiau yn anghytuno gyda dyraniad yr arian gan y Llywodraeth yn y gyllideb ddrafft gwerth £14.5 biliwn, sydd ar hyn o bryd yn cynnig rhywfaint o gynnydd ar gyfer cyllidebau’r adrannau addysg a iechyd flwyddyn nesaf, ond yn torri ar gyllidebau yr adrannau eraill.

Mae’r gyllideb ddrafft honno yn cael ei thrafod yn Siambr y Senedd ar hyn o bryd, ac mae disgwyl pleidlais arni cyn diwedd y trafod – gyda’r disgwyl y caiff y gyllideb ddrafft ei gwrthod.

Yn ôl Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, mae disgwyl i’r trafodaethau barhau am sbel eto cyn y bydd Llafur yn llwyddo i gael cytundeb ar eu cyllideb, a rhoi digon o fwyafrif iddyn nhw basio’r gyllideb derfynol yn y bleidlais ar 6 Rhagfyr.

“Gan fod bob un o’r gwrthbleidiau wedi dangos nad ydyn nhw’n gallu cefnogi’r gyllideb ddrafft, mae’n debygol na fydd dim yn cael ei ddatrys heddiw, ac na fydd y gyllideb ddrafft yn cael ei nodi, ac felly fe fydd y trafodaethau yn parhau.”