Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion ar ôl damwain angheuol ym Mhenybont-ar-Ogwr dros y penwythnos.

Fe ddigwyddodd y ddamwain am 5pm ddydd Sul ar y cyffordd rhwng Heol Quarrella a Thremgarth yn Wildmill.

Roedd dau gar, Peugeot 206 lliw arian a beic modur Yamaha DT glas, wedi bod mewn gwrthdrawiad. Roedd y beic modur yn cael ei yrru gan ŵr lleol 19 oed. Cafodd ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru gydag anafiadau difrifol ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu wedi arestio dyn 68 oed menw cysylltiad â’r ddamwain ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhywun a welodd y cerbydau yn cael eu gyrru ychdyig cyn y ddamwain. Y rhifau i’w ffonio yw 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.