Mae Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru wedi dweud heddiw ei fod o blaid datganoli cyfrifoldeb dros heddluoedd Cymru o San Steffan i Fae Caerdydd.

Mi wnaeth Peter Vaughan hefyd feirniadu bwriad Llywodraeth San Steffan i godi’r uchafswm cyflymder gyrru ar draffyrdd yng Nghymru a Lloegr i 80 milltir yr awr yn ystod ei ymddangosiad ar raglen The Politics Show.

Mae Adran Drafnidiaeth y Llywodraeth wedi datgan y bydd yr uchafswm cyflymder yn codi yn 2013.

“Y mwya’ cyflym mae gyrrwr yn teithio, yna mwya’ yw’r effaith wrth daro cerbyd arall,” meddai.  Roedd o’r farn fod y cyflymder presennol o 70 milltir yr awr ar draffyrdd yn ddigonol.