Roedd Gŵyl Cerdd Dant Cwm Gwendraeth 2011 a gynhaliwyd ddoe i’w gweld yn llwyddiant mawr, gyda’r bwrlwm yn amlwg yn Neuadd Pontyberem, lleoliad yr Ŵyl eleni.

Roedd nifer dda o gystadleuwyr wedi cymryd rhan ac roedd pawb yn mwynhau safon uchel y cystadlu. Roedd hen wynebau ac wynebau newydd i’w gweld ar y llwyfan, a’r cystadlu yn amrywiol a brwd hyd at y diwedd.

Cystadleuaeth y Corau Cerdd Dant agored wnaeth gloi’r Ŵyl. Daeth pum côr i’r llwyfan a’r côr buddugol oedd Côr Merched Llangwm. Merched y Ddinas oedd yn ail, a Chôr Merched Canna yn drydydd.

Aelwyd y Waun Ddyfal wnaeth gipio’r gystadleuaeth Côr Alaw Werin agored. Criw Caerdydd enillodd y gystadleuaeth Parti Cerdd Dant agored, a Pharti Llwchwr oedd ar y brig yng nghystadleuaeth y Parti Alaw Werin agored.