Mae darogan gwae wedi bod yn ddiweddar ynglŷn â thranc papurau newydd yng Nghymru, ac ym Mhrydain.

Mae golygyddion wedi bod yn rhincian eu dannedd wrth i’w papurau cael eu gwasgu gan boblogrwydd y gwasanaethau newyddion ar lein.

Ond, yn gwbl groes i’r duedd yma, mae cwmni Papurau Newydd Tindle wedi lansio papur newydd yng Nghas-gwent.

Bydd y papur wythnosol y Chepstow Review yn costio 40c, a’i dalgylch fydd Cas-gwent a’r trefi a phentrefi cyfagos.

Mae papur newydd sy’n cael ei gyhoeddi gan yr un cwmni, Forest of Dean and Wye Valley Review, eisoes yn cael ei werthu yng Nghas-gwent, ac mae’n gwerthu 44,527 o gopïau’r wythnos.

Meddai golygydd y Chepstow Review, Mark Bristrow, “Mae’r Review eisoes â phresenoldeb cryf yng Nghas-gwent ac mae’n boblogaidd iawn ymysg y trigolion lleol.

“Bydd y papur newydd yn adeiladu ar y poblogrwydd hynny, gyda’r genhadaeth i estyn allan at y bobl a siarad â nhw’n ddi-ofn. Mae’n bapur lleol, yn cynrychioli’r farn leol bob amser.”

Ym mis Mehefin eleni fe lansiodd y cwmni bapur newydd arall yng Nghymru, The Pembroke and Pembroke Dock Observer.

Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth perchennog y cwmni, Syr Ray Tindle, annog golygyddion ei grŵp papurau newydd  rhanbarthol i lansio eu hunain allan o’r hyn yr oedd yn ei ddisgrifio fel “dirwasgiad erchyll.”