Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau mai corff Daniel Collins, 17 oed, o Fryste, gafodd ei ddarganfod yn Afon Wysg ddydd Llun.

Roedd yr heddlu’n ymchwilio ar ôl i ddau feic  gyriant pedair olwyn gael eu dwyn yn ardal Crughhywel ar Hydref 30. Roedd un o’r beiciau wedi cael ei ddarganfod  ger  bont hanesyddol yng Ngrughywel ac roedd yn ymddangos fod y beic wedi taro yn erbyn wal y bont.

Bu timau achub gyda chŵn, deifwyr a hofrennydd yr heddlu yn chwilio am y gyrrwr ond daethon nhw ddim o hyd i’w gorff.

Cafodd tri dyn arall eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff ddydd Llun, 7 Tachwedd.