George Papandreou
Dywed Prif Weinidog Gwlad Groeg George Papandreou bod cytundeb wedi cael ei wneud er mwyn ffurfio llywodraeth dros dro.

Dywedodd George Papandreou ei fod yn dymuno pob llwyddiant i’r llywodraeth a’r arweinydd newydd, er nad ydy o wedi cyhoeddi pwy yw’r prif weinidog newydd.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl tridiau o drafodaethau dwys ynglŷn â ffurfio llywodraeth glymblaid rhwng ei blaid a’r Ceidwadwyr, sy’n cael eu harwain gan Antonis Samaras.